Thursday, 8 January 2009

Cystadleuaeth Gwir Harddwch

Helo, a chroeso i flog Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta Cymru. Prif pwrpas y blog yw i farcio Wythnos Anhwylderau Bwyta yng Nghymru 2008 sydd yn digwydd rhwng y 23 i'r 28 o Chwefror. Mae'r grwp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta, gyda nodd gan Dove Self Esteem yn lansio cystadleuaeth sy'n gwahodd aelodau o'r cyhoedd i gyflwyno lluniau o'r hyn y maent yn ystyried i fod yn wir harddwch er mwyn herio'r pwysau ar bobl i ymuno â'r diwylliant 'maint sero' sy'n arwain at lawer o anhwylderau bwyta.

Ar y blog yma byddem yn datgelu pwy yw beirniaid gwadd y gystadleuaeth, a blogs gan bobl sydd ag anhwylder bwyta, sydd wedi gwella, pobl sydd yn gweithio yn y sector a mwy....

Dyma manylion y gystadleuaeth isod. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, plis ebostiwch y cyswllt ar y blog neu bethan.jenkins@wales.gov.uk. Gallwch rhoi eich lluniau yn syth ar y safle flickr fan ar www.flickr.com/groups/truebeauty_gwirharddwch/

Bydd digwyddiad i wobrwyo'r goreuon yn y Senedd ar y 25 o Chwefror at 6 yr hwyr, felly cofiwch cadw'r dyddiad yn rhydd!

Pob lwc gyda'r gystadleuaeth....

Dyddiadau Allweddol:

Cystadleuaeth yn agor Dydd Iau yr 8fed o Ionawr 2009.

Cystadleuaeth yn cau Dydd Llun 16eg Chwefror 2009.

Bydd yr arddangosfa yn y Senedd Ddydd Mercher 25ain Chwefror o 10.30yb.

Cyhoeddir yr enillwyr am 6 yr hwyr yn y Senedd.


Manylion y Gystadleuaeth:

Gall cystadleuwyr bostio llun (maint A3) gyda'u syniad o beth yw “wir harddwch” at Bethan Jenkins AC, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, CF99 1NA.

Gellir e-bostio lluniau i truebeauty09@gmail.com neu gwirharddwch09@gmail.com.

Detholir 40 o luniau i'w harddangos yn y Senedd.

Bydd y cyhoedd a phanel o feirniaid yn dewis lluniau y maent yn meddwl eu bod yn cynrychioli “gwir harddwch” mewn ffordd greadigol, bersonol a chwilfrydig.

Termau ac amodau: Dylai pob llun gynnwys person; hawliau i ddefnyddio'r 40 o luniau a arddangosir mewn deunydd cyhoeddusrwydd; ni dderbynnir cyfrifoldeb am niwed neu golled; dim ond un llun y person; rhaid i'r llun fod wedi'i thynnu yn y 12 mis diwethaf, Rhaid i'r person yn y llun fod yn 16 neu'n hŷn.

0 comments: